Mae’r animeiddiadau yn llawn anwyldeb ac ysgafnder tra hefyd yn cyffwrdd a dwyster a gwewyr.
Mae ‘Paned Iawn’ yn gyfres o animeiddiadau byr llai caiff dau fyg , Am a Cal, gyfle i ddychmygu sut y gall eu creadigrwydd eu cefnogi.
Mae nhw wedi bod yn sownd mewn cwpwrdd ers cychwyn cyfnod Cofid wrth i’w perchnogion, sy’n weithwyr allweddol mewn ysbyty, dderbyn cyfarwyddyd i ddefnyddio cwpannau ‘un tro’.
Ein gobaith yw bod y gweithgareddau sydd ym mhob animeiddiad yn cynnig syniad i weithwyr am ffyrdd o gynnal a hywryddo eu llesiant.
Mae’r animeiddiadau yn llawn anwyldeb ac ysgafnder tra hefyd yn cyffwrdd a dwyster a gwewyr mae gweithwyr gofal wedi eu wynebu.
Ynys Blastig / Iola Ynyr / Sioned Medi Evans
What do you think?
We'd love to hear your feedback.