Mi all y pethau fwyaf di-nod yn eich cartref sbarduno'r syniadau mwyaf creadigol yn eich dychymyg.
Croeso i Stiwdio Syniadau, cyfres fer dwi’n gobeithio bydd yn eich annog chi i ddefnyddio nwyddau o’ch cartref / gardd er mwyn sbarduno syniadau newydd a gwneud y broses ysgrifennu yn un hwyl.
Fy enw i ydy Mari Elen, dwi’n sgwennwr, podlediwr a pherfformiwr yn byw yng Ngogledd Cymru, a dwi’n caru dod o hyd i ffyrdd newydd o sbarduno syniadau. Dwi wedi bod yn ‘sgwennu ers blynyddoedd, sgwennu’n broffesiynol a sgwennu i deimlo’n well, ond weithiau dwi’m yn gwybod lle i ddechrau.
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu. Mi fyddwn ni’n dod o hyd i blot, creu cymeriadau a chael hwyl.
Does 'na’m ffiniau pan ydach chi’n sgwennu’n greadigol, a dyna sydd yn ei wneud mor gyffroes! Peidiwch poeni am gywirdeb iaith, dim ond mwynhau'r broses sydd yn bwysig.
Mari Elen Jones
What do you think?
We'd love to hear your feedback.