Mae ysgrifennu yn gwneud i mi deimlo'n well.
Mae o weithiau yn gwneud i mi sylweddoli rhywbeth nad oeddwn i'n ymwybodol ohono fo cynt - pethau da a phethau drwg.
Weithiau mae'n braf cael dianc i fyd dw i wedi'i greu. Tro arall mae rhoi fy mhroblemau i lawr ar bapur yn eu rhwystro rhag troi a throi yn fy mhen.
Yn y tair fideo dw i'n eich gwahodd i ymuno efo fi ac ysgrifennu ychydig eich hun. Dw i ddim isio i chi boeni am bethau fel sillafu, ac am ei "wneud o'n iawn", dim ond neilltuo ychydig funudau i'ch hun a rhoi eich syniadau a'ch ofnau a'ch breuddwydion chi i lawr ar bapur.
Fydd neb arall yn y byd yn ysgrifennu stori fel eich stori chi.
Diolch i Llinos Griffin o gwmni Gwefus am greu'r fideos.
Siân Northey
What do you think?
We'd love to hear your feedback.