Y Llythyr (The Letter), 1924, olew ar gynfas

Gwen John (1876-1939)

© Manchester Art Gallery / Bridgeman Images

Delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd Oriel Gelf Manceinion

 

Arsylwi Araf

Dyma wahoddiad i chi ymlacio wrth i ni eich arwain yn araf ac yn ystyrlon drwy fanylion darn o waith celf. Mae'n cymryd tua 5 munud, a gallwch wrando wrth eich desg, yn ystod egwyl, neu ar y trên ar y ffordd i'r gwaith. Felly bachwch baned, gwnewch eich hun yn gyfforddus, a dewch ar daith arsylwi araf gyda ni.

 

Yr artist

Gwen John yw un o’r artistiaid pwysicaf, a’r mwyaf poblogaidd, i ddod o Gymru. Mae’n adnabyddus heddiw am ei phortreadau o fenywod, paentiadau o stafelloedd tawel a llwm, ac am frasluniau difyr o’i chathod annwyl! Heb os roedd hi’n artist â gweledigaeth unigryw, a chanddi arddull flaengar ei hoes. Gyda’i phersonoliaeth liwgar, a’i ffordd o fyw anghonfensiynol, roedd hi’n un oedd yn herio disgwyliadau rhywedd ei hoes.

Y paentiad

Paentiodd Gwen John Y Llythyr yn 1924 ar gyfer Charles Rutherston, oedd yn gasglwr celf brwd. Credai Charles y dylai pawb gael mynediad at weithiau celf gwreiddiol, ac na ddylai unrhyw gasglwr fod ‘mor hunanol â’u cadw iddo’i hun,’ felly cyflwynodd Charles y paentiad hwn, ynghyd â rhai eraill o’i gasgliad, i Oriel Gelf Manceinion ym 1925.

Gwnaeth Gwen John sawl fersiwn tebyg o’r llun yma, gan ddefnyddio’r un model. Paentiodd y fersiwn cyntaf ym 1919, yn anrheg i’w ffrind annwyl Isabel Bowser a oedd, ar y pryd, yn derfynol wael gyda chanser. Yn anffodus, bu farw Isabel cyn i Gwen orffen y paentiad, ac fe bwysodd hyn yn drwm ar feddwl Gwen am flynyddoedd i ddod. Fe gafodd marwolaeth Isabel effaith fawr arni, a throdd Gwen at ei chelf a’i chathod am gysur yn ei galar.

 

Arsylwi'n Araf ar gelf - Y Moelwynion O Lan Ffestiniog

Mae "Arsylwi'n Araf ar gelf" yn gyfres o ffilmiau gan Steph Roberts ar gyfer y Cwtsh Creadigol.

Gwefan: https://stephcelf.co.uk

genre: Art
type: Relax
participants:
Individual
resource supplied by:

Steph Roberts