Mi all y pethau fwyaf di-nod yn eich cartref sbarduno'r syniadau mwyaf creadigol yn eich dychymyg.

Croeso i Stiwdio Syniadau, cyfres fer dwi’n gobeithio bydd yn eich annog chi i ddefnyddio nwyddau o’ch cartref / gardd er mwyn sbarduno syniadau newydd a gwneud y broses ysgrifennu yn un hwyl.

Fy enw i ydy Mari Elen, dwi’n sgwennwr, podlediwr a pherfformiwr yn byw yng Ngogledd Cymru, a dwi’n caru dod o hyd i ffyrdd newydd o sbarduno syniadau. Dwi wedi bod yn ‘sgwennu ers blynyddoedd, sgwennu’n broffesiynol a sgwennu i deimlo’n well, ond weithiau dwi’m yn gwybod lle i ddechrau.

Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu. Mi fyddwn ni’n dod o hyd i blot,  creu cymeriadau a chael hwyl.

Does 'na’m ffiniau pan ydach chi’n sgwennu’n greadigol, a dyna sydd yn ei wneud mor gyffroes! Peidiwch poeni am gywirdeb iaith, dim ond mwynhau'r broses sydd yn bwysig.

Mari Elen Jones

genre: Writing
type: Write
participants:
Individual
equipment needed: Papur, Beirio, Hen gylchgronnau / papurau newydd / llyfrau, Esgidiau addas i fynd am dro
resource supplied by:

Mari Elen Jones / Dafydd Hughes